Cerddi WR Evans

Dyma gryno ddisg hir ymaros y ‘boyband’ cyntaf, Bois y Frenni.
Sefydlwyd parti Bois Y Frenni yn 1940 gan Ysgolfeistr Bwlch-y-groes ar y pryd, W.R. Evans, neu ‘Wil Glynseithmaen’ fel roedd pawb yn ei nabod ym mro ei febyd ym Mynachlog-ddu. Bwriad cyntaf y parti oedd codi arian ar gyfer achosion da fel ‘Y Groes Goch Brydeinig’ a ‘Chronfa Ein Bechgyn’ (a llwyddwyd i godi miloedd yn ystod y cyfnod), a’r ail oedd llonni calonnau pobol cefen gwlad yn nyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd.
Ysgrifennodd W.R. ddwy gyfrol o ganeuon ar gyfer y parti, sef ‘Pennill a Thonc’ (1940) a ‘Hwyl a Sbri’ (1942). Y bywyd gwledig oedd testun y geiriau gan amlaf, i’w canu ar alawon poblogaidd y dydd megis ‘Home on the Range’, ‘Show me the way to go home’ ac yn y blaen. Rhoddwyd hefyd cryn sylw yn y caneuon i’r digwyddiadau gwahanol i’r arfer a welid yn y dyddiau hynny, o achos y rhyfel. Pethau fel duo’r ffenestri yn ‘Y Blac Owt’, rhedeg i’r ‘Cwtsh Dan Stâr’, aredig am ‘Dwybunt yr Erw’, a chroesawu’r ‘Ifaciwîs’.
Caneuon gwreiddiol W.R. yw’r unig rai y mae’r Bois yn eu perfformio hyd heddiw, a detholiad ohonynt sydd yma ar eich cyfer. Cyhoeddwn y cryno-ddisg hwn gan gobeithio y gwnewch chi fwynhau mas draw a chwerthin yn uchel wrth wrando, fel y mae cenedlaethau o bobol o’ch blaen wedi gwneud.
Ac yntau’n alltud yn ei faracs tra oedd yn gwasanaethau yn y Llu Awyr, yn ei ragair i ‘Hwyl a Sbri’ dyma oedd apêl W.R. Evans i’r Cymry oedd gartref – “apeliwn atoch i wneud eich eithaf i gadw’r bywyd Cymreig, yr ysbryd Cymreig, y diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg yn fyw”.
Ateb galwad W.R. yw’r nod o hyd.

SKU: CD377N Category:

£9.99