Hedfan

Mae enw Delwyn Sion wedi bod yn gysylltiedig a chanu cyfoes Cymraeg ers y 70au cynnar, yn aelod o Hergest ac Omega, ac yn  ganwr -gyfansoddwr unigol ers deugain mlynedd; mae e wedi’n harwain o Niwl Dyfed i Gwm Cynon i Fangor yn y Glaw, a nawr mae am ein harwain i fyd ehangach gyda’i ail gasgliad o “Oreuon”, yn canolbwyntio ar y blynyddoedd rhwng 1992 a 2005.

Mae yna amrywiaeth o arddulliau a thestunau. O rythmau cyfarwydd Affricanaidd “Mandela” ac “Aio!” i sain gitar, pibau a charango De America yn y dirdynnol “Plant y Chwyldro” a’r obeithiol “Glas”, cyn i’r anthem amgylcheddol “Un Byd” a’i neges gyfoes “Un Byd sy’ gyda ni ….Gad Fi Fod!” orffen yn orfoleddus yn sain drymiau’r Caribi.

Mae yna eiliadau tawel a phersonol hefyd, caneuon sy’n cyffwrdd ag ofn ac ansicrwydd, “Hedfan yn Uwch” ac “Engyl Gwyn”. A cholled, colled yn dilyn trychinebau 9/11 a Fietnam yn “Dal i Grio”, a cholled y plant yn “Aberfan”, er mae’r gan yn gorffen yn obeithiol, yn deyrnged i ddyfalbarhad y gymuned glofaol glos mae Delwyn yn perthyn iddi.

Mae ‘na “Ffydd Gobaith a Chariad” yn rhedeg trwy’r casgliad arbennig yma, a hynny yng nghwmni llu o gerddorion a chantorion ardderchog, yn cynnwys Linda “Plethyn”, Geraint Cynan, Angharad Brinn, Caryl, Myfyr Isaac a Tich Gwilym.

Felly, er bod Delwyn yn cloi’r casgliad wrth gyhoeddi ei fod e’n “Rhy Hen i Hyn!” – dyw e ddim !

Gwrandewch. Mwynhewch. A byddwch yn barod i “Hedfan”.

SKU: CD367H Category:

£11.99