Sgam

Catsgam – “Sgam”

Dydy cael grŵp o ffrindiau yn dod at ei gilydd i chwarae offerynnau a chyfansoddi ambell i gân ddim yn beth anarferol.  Yr hyn sy’n gwneud CATSGAM yn anarferol, os nad yn unigryw, yw fod y band yn dal gyda’i gilydd un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, yn dal i chwarae’n fyw, yn paratoi i ryddhau albwm o’u caneuon mwyaf poblogaidd – ac yn dal yn ffrindiau!

Ffurfiwyd y grŵp yn Ne Ddwyrain Cymru ym 1997 pan ddaeth y pum aelod at ei gilydd i greu sain roc melodig wedi ei adeiladu ar ganeuon cadarn Rhys Harries a llais arbennig Catrin Brooks.  Recordiwyd pedair albwm ar label “Fflach” a nawr, yn Hydref 2018, dyma ryddhau “Sgam” – casgliad o’r caneuon mwyaf poblogaidd.

Mae “Sgam” hefyd yn cynnwys pedair cân llai adnabyddus, un oddi ar bob albwm, sydd wedi eu hail-drefnu, eu hadfywio a’u hail-recordio ar gyfer 2018.  “Cicaion Jona”, “Methu Credu Hyn”, “Dyddiau” a “Stryd yr Awyrennau” – dyma’r pedair cân “redux” sydd ar yr albwm.

Yr hen a’r newydd.  Mae cyrraedd yr ‘un mlynedd ar hugain’ yn garreg filltir i unrhyw fand – ac i CATSGAM mae’r daith yn parhau…

 

It’s not unusual for a group of friends to get together, pick up their instruments and jam a few songs.  What makes CATSGAM unusual, if not unique, is that twenty one years, four albums and countless live performances later, the band is releasing a “Best of…” collection, still gigging – and still friends!  

Formed in 1997, the five piece from South East Wales quickly established their own distinctive style of guitar-based melodic rock built around Rhys Harries’s powerful songwriting and the instantly recognisable vocals of Catrin Brooks.  Four albums of original material were recorded on the “Fflach” label leading to the release of “Sgam” – the 21st anniversary collection, in October 2018.

“Sgam” contains the most popular songs from each album – as well as four brand new, stripped back versions of lesser known CATSGAM songs.  One song from each album was chosen to be re-visited, re-arranged, re-worked and re-recorded for 2018.  “Cicaion Jona”, “Methu Credu Hyn”, “Dyddiau” and “Stryd yr Awyrennau” – these are the “redux” songs included on the album.

“Something old… something new”.  “Sgam” is a milestone in the band’s long journey… a journey which is set to continue.

SKU: CD365H Category: Tags: , , ,

£11.99