Mae'r CD yma yn cynnwys caneuon am yr wyddor Gymraeg o A - Y. Mae pob pennill yn canolbwyntio ar y llythyren fel yn A - Anaconda'n mynd ar ei bola, Anaconda mawr, Anaconda'n mynd ar ei bola, Dos am adre nawr! neu L - Lan a lawr yn y lori las, Lan a lawr y lôn, Lan a lawr yn y lori las, Lawr i lan y môr. Mae'r gerddoriaeth yn dilyn pob pennill, i blant cael canu y pennill eu hunain, gyda'r wyddor i gyd yn cael ei canu ar ddiwedd y CD o A - Y.