Fflach Music from Wales


GARETH PHILLIPS
Blodau a Drain Blodau a Drain CD048N

Blodau a Drain yw enw albym cyntaf y gwr o Sir Gar. Ar ol treulio sawl blwyddyn yn yr Alban mae Gareth wedi ymgartrefu yn ei hen gynefin, ac wedi recordio albym sy'n llawn o storie a phersonoliaeth. Mae Gareth yn gigio cryn dipyn, gan perfformio setiau acwstic ar ben ei hun, ac hefyd gyda band llawn. Mae hyn yn dangos pa mor amryddawn yw'r dyn; mae e' run mor hapus yn sibrwd-ganu mewn cornel ryw hen dafarn efo'i gitar acwstic, ac y mae e' pan yn bloeddio'r geiriau allan dros swn ei gitar drydan.

Ymddengys deg can ar yr albym newydd, gan gynnwys Gair Ola' a chafwyd eu darlledu ar sesiwn C2 nol ym mis Mawrth 2005. Mae'r gweddill yn ymestyn o faledi acwstic fel Nol i'r Fro, i ganeuon gwerin post-modern fel (Reu di Reu) Y Diafol a Fi. Hefyd, mae lle ar yr albwm i ganeuon mor amrywiol a sglein roc gwledig Califfornia, ffync Bae Aberporth, a phop Blodau a Drain.

Mi fuodd Gareth y lwcus iawn i gael band gwych ar y record. Ar y drymiau mae Meredudd Jones sy' hefyd yn chwarae i'r band newydd Iglw. Mae Iestyn Jones, sy'n perfformio gyda Fflur Dafydd a'r Barf yn chwarae'r gitar fas. Yn ogystal a chynhyrchu'r record a chwarae'r mandolin ar Gair Ola, mi wnaeth Rhys “Y Barf” James chwarae'r organ ar Iar Fach yr Haf.

Mi wnaeth Gareth hefyd fwynhau cwmni yr enwog Huw Chiswell, a fuodd mor garedig a pherfformio ar Iar Fach yr Haf, a (Reu di Reu) Y Diafol a Fi, a Califfornia.

Mi fydd Gareth yn gigio mewn rhyw dafarn ar eich bwys chi, yn fuan iawn. Gwrndewch a mwynhewch.
Blodau a Drain (2007)

01 Califfornia
02 Bae Aberporth
03 Nol I'r Fro
04 Blodau A Drain
05 Iar Fach Yr Haf
06 (Reu Di Reu)Y Diafol A Fi
07 Rhuban Coch, Rhuban Gwyn
08 Cychod
09 Gair Ola
10 Canu Haleliwia



Created on 11/15/2007 12:58 AM by fflach123
Updated on 11/15/2007 01:08 AM by fflach123
 Printable Version
Log In
Username

Password

Remember Me


Search Web Pages



Cyflwynwch Eich Demo
Submit Your Demo
Calendar
< June, 2013 >
S M T W T F S
26 27 28 29 30 31 01
02 03 04 05 06 07 08
09 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30 01 02 03 04 05 06

Powered by phpWebSite © and SCL Internet Services | Graphics | Credits
phpWebSite is licensed under the GNU LGPL