Fflach Music from Wales


EINIR DAFYDD
Ewn Ni Nôl Ewn Ni Nôl CDO57J

Trydydd recordiad Einir Dafydd i Rasp yw 'Ewn Ni Nôl' ac mae na bump cân ar y CD, wedi ei gynhyrchu'n wych gan Steffan Rhys Williams yn ei stiwdio ger Caerdydd. Mae llais Einir ar ei orau eto, ac mae ei dawn fel cyfansoddwraig yn dod i'r amlwg hefyd, ynghyd a geiriau meddylgar y prifardd Ceri Wyn Jones ar y caneuon 'Rhwng Dau Gae' a 'Penybryn'. Ryland Teifi, sydd nawr yn byw a gweithio yn Iwerddon, sy'n gyfrifol am y gân hyfryd 'Yr Ardal' ac mae arddull y gân pop-gwerin yma yn rhoi dimensiwn newydd i'r EP. Mae 'Ti' gan Einir ei hun - un o ganeuon y band o Sir Benfro, Garen Dolwen ac ysgrifennodd Richard Jones o Ail Symudiad 'Y Golau Newydd' am bobl di-gartref sy'n gorfod crwydro y strydoedd.Cyfle bendigedig eto felly i chi glywed mwy o Einir Dafydd fel berfformwraig a chyfansoddwraig.

Einir Dafydd's third CD for Rasp is 'Ewn Ni Nôl', and there are five songs on this CD, excellently produced by Steffan Rhys Williams in his studio near Cardiff. Einir's voice is once again at its best, and her gift as a composer comes to the fore, as do well crafted lyrics by the poet and prize winning bard Ceri Wyn Jones on the songs 'Rhwng Dau Gae' and 'Pen-y-Bryn'. Ryland Teifi, the well known Welsh singer/songwriter, who now lives and works in Ireland penned the lovely song 'Yr Ardal', and this song brings in a new dimension to the CD and has a folk-pop feel. 'Ti' is written by Einir herself, a song she wrote when she was a member of Pembrokeshire popsters Garej Dolwen. Richard Jones wrote 'Y Golau Newydd', about people who have to live on the streets. A great opportunity again therefore to enjoy more of Einir Dafydd as a perfomer and songwriter.
Ewn Ni Nôl (2012)

01 Rhwng Dau Gae
02 Yr Ardal
03 Y Golau Newydd
04 Pen-Y-Bryn
05 Ti


Pwy Bia’r Aber? Pwy Bia’r Aber? CD052J

CDEP newydd Einir Dafydd yw Pwy Bia’r Aber? Pump cân sydd ar y CD – Ma Dy Rif Di Yn y Ffôn, Siarps a Fflats, Dy Golli Di, Pwy Bia’r Aber? a Pethe Bychain. Dyma trydedd CD Einir ac mae hi erbyn hyn wedi datblygu tipyn fel cyfansoddwraig. Ceri Wyn Jones sydd wedi ysgrifennu y geiriau diddorol i bedwar o’r caneuon . Cafodd yr EP ei chynhyrchu yn Stiwdio Rockcliffe yn Llandudno yn gynharach eleni gyda’r cynhyrchydd Simon Gardner; ef a’r gitarydd Andrew Moore sy’n gyfrifol am y gerddoriaeth, a’r gân Dy Golli Di, sydd wedi ei chyfieithu gan Einir, hi hefyd sydd yn canu’r lleisiau cefndir i gyd. Caneuon ‘catchy’ pop /gwlad, ond mae naws geltaidd gwerin yn perthyn i’r gân Siarps a Fflats.


Pwy Bia’r Aber? is the new CD from Einir Dafydd. There are five ‘catchy’ songs on this EP, among them - “Ma Dy Rif Di Yn y Ffôn” (You’re Number’s In the Phone), “Siarps a Fflats” (Sharps and Flats), and “Pethe Bychain” (Small Things). This is Einir’s third CD and shows that she has developed as a composer. Ceri Wyn Jones wrote the words to four of the songs, which are thoughtful and interesting. The CD was produced in Rockcliffe Studios, Llandudno earlier this year, Simon Gardner and Andrew Moore were responsible for the song “Dy Golli Di” (Losing You) (translated by Einir) as well as the music for the EP, Einir herself did all the backing vocals. Siarps and Fflats is a totally different style for Einir as it has a more celtic feel.
Pwy Bia’r Aber? (2009)

01 Ma dy rif di yn y ffon
02 Siarps a fflats
03 Dy golli di
04 Pwy bia'r Aber?
05 Pethe bychain


Ffeindia Fi Ffeindia Fi CD043J

Dim ond 18 oed yw Einir Dafydd, ac yn barod mae hi wedi cyflawni rhywbeth nad oes neb arall wedi gwneud. Yn 2006, enillodd Wawfactor'. ac yn 2007, 'Can i Gymru.' Er iddi ryddhau sengl 'Y Garreg Las' ar ol ennill 'Wawffactor', dyma ei e.p cyntaf hi gyda label recordio. Cyd-weithio gyda Ryland Teifi, Caryl Parry Jones a Ceri Wyn Jones a wnaeth Einr Dafydd ar y grynoddisg hon. Mae'r e.p newydd yn cynnwys 6 o ganeuon amrywiol, yn cynnwys cerddoriaeth Jazz, Pop a Gwerinol.


Einir Dafydd is only 18 years old, and already she has achieved something nobody else has done. She's won two major music competitions on S4C, including 'Wawffactor' in 2006 and 'Can i Gymru' in 2007. She released her first single 'Y Garreg Las' as a prize for winning 'Wawffactor, but this is her first release with a record label. Ryland Teifi, Caryl Parry Jones and Ceri Wyn Jones have contributed to the e.p, which means that there is a variety of music on the cd including Jazz, Pop and Folk.

Ffeindia Fi (2007)

1.Ti oedd yr Un
2.Ffeindia Fi
3.Blwyddyn Mas
4.Sibrydion ar y Gwynt
5.Bachgen Wyt Ti
6.Eira Cynnes


Created on 08/02/2007 10:23 AM by fflach123
Updated on 09/14/2012 06:28 PM by fflach123
 Printable Version
Log In
Username

Password

Remember Me


Search Web Pages



Cyflwynwch Eich Demo
Submit Your Demo
Calendar
< May, 2013 >
S M T W T F S
28 29 30 01 02 03 04
05 06 07 08 09 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 01

Powered by phpWebSite © and SCL Internet Services | Graphics | Credits
phpWebSite is licensed under the GNU LGPL